Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 16
Ebrill 2024
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(5 munud)
NNDM8530 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8529 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 16 Ebrill 2024.
(5 munud)
NNDM8529 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 49(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno â’r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Fawrhydi y Brenin benodi Mick Antoniw AS yn Gwnsler Cyffredinol.
(15 munud)
Bydd y Llywydd yn gwahodd enwebiadau ar gyfer cadeiryddion y pwyllgorau canlynol yn unol â Rheol Sefydlog 17.2F:
1. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Llafur)
2. Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Llafur)
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(45 munud)
(0 munud)
(60 munud)
NDM8533 Rebecca Evans Gŵyr
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru).
Gosodwyd y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 20 Tachwedd 2023.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) gerbron y Senedd ar 15 Mawrth 2024.
Dogfennau Ategol
Ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
NDM8532 Rebecca Evans Gŵyr
Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
(5 munud)
NDM8531 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:
a) Adrannau 1-12;
b) Atodlen 1;
c) Adrannau 13-17;
d) Atodlen 2;
e) Adran 18;
f) Atodlen 3;
g) Adrannau 19-26;
h) Enw hir.
(5 munud)
(15 munud)
NDM8539 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Seilwaith (Cymru).
Bil Seilawith (Cymru), fel yi diwygiwyd ar l Cyfnod 3
Dogfennau Ategol
Datganiad y Llywydd yn unol ag adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 17 Ebrill 2024